Cyhoeddi Tux Paint 0.9.14
New Breed Software yn Rhyddhau Fersiwn Gorau Byth o'r Meddalwedd
Celf Côd Agored ar gyfer Plant
[
Cymraeg |
English |
Español |
Français |
Indonesia |
Italiano |
Japanese |
Norsk nynorsk |
Chinese
]
12 Hydref 2004 (Y Rhyngrwyd) -
Mae New Breed Software
yn falch o gyhoeddi Tux Paint 0.9.14.
Dyma'r rhyddhad mawr cyntaf eleni o'r meddalwedd celf gwych yma ar gyfer plant.
Dros y naw mis diwethaf, gwnaed llawer o waith i wella Tux Paint ac
ychwanegu'r nodweddion a ofynnwyd amdanynt gan athrawon a rhieni.
Mae Tux Paint 0.9.14 yn cyflwyno nodweddion newydd fel offer
ffurfweddu haws eu defnyddio i rieni ac athrawon, a modd llyfr lliwio
aml-haen. Mae'r ffaith bod Tux Paint ar gael ar hyn o bryd mewn
45 iaith gwahanol yn adlewyrchu ei ganolbwynt rhyngwladol, efo criw o
gyfrannwyr o wledydd gwahanol.
Crynodeb o'r Uchafbwyntiau
Nodweddion Newydd
- Bydd defnyddwyr Mac OS X a Windows yn falch o weld
Tux Paint Config, teclyn syml graffegol sy'n gadael i
rieni ac athrawon addasu gosodiadau Tux Paint heb orfod golygu
ffeil ffurfweddiad â llaw.
(Sgrinlun)
- Mae Tux Paint hefyd yn cynnal amlinellau llyfr lliwio
sy'n gorhaenu'r lluniadau.
(Sgrinlun)
Mae delweddau 'cam cyntaf' efo dwy haen yn rhoi twyll dyfnder gan ddarparu
gorhaen gefndir a flaendir.
(Sgrinlun)
Gwelliannau
- Mae'r teclyn ‘Rwbiwr’ yn cynnig nifer o feintiau.
- Mae ffeil glo yn atal copiau lluosol rhag rhedeg wrth i blant
ifainc glicio'r eicon Tux Paint yn rhy awyddus.
- Mae lliwiadu (arlliwio) delweddau 'Stampiau' wedi'i wella.
Cefnogaeth Aml-ieithyddol Gwell
- Cynhelir 11 o ieithoedd newydd, yn dod â'r cyfanswm i 46, a
diweddariwyd bron pob un o'r hen gyfieithiadau. Yr ieithoedd newydd yw:
Africaneg, Belarwseg, Llydaweg, Bulgareg, Croateg, Hindi, Serbeg,
Slofeneg, Tseineeg Traddodiadol, Fietnameg, a Cymraeg.
- Cynhelir cyfieithiadau o'r casgliad delweddau 'Stampiau' gan
ddefnyddio'r offer safonol gettext.
'Stampiau' Newydd
- Mae'r stampiau wedi'u gwella, a nifer o rai neywdd wedi'u hychwanegu:
ceir, darnau pres Canada, y Pasg, tân gwyllt, ffrwythau,
Nos Calan Gaeaf, creaduriaid y môr.
Namau a Drwsiwyd
- Mae nifer o namau mawr a bach wedi'u trwsio.
Gweler
Cofnod newidiadau Tux Paint and
Cofnod newidiadau Stampiau Tux Paint
am restr gyfan o newidiadau.
Cael Tux Paint 0.9.14
Gellir lawrlwytho Tux Paint 0.9.14 dros y Rhyngrwyd gan fynd i
http://www.newbreedsoftware.com/tuxpaint/download/.
Mae côd tarddiad a phecynnau deuaidd ar gyfer nifer o ddosbarthiadau
Linux ac Microsoft Windows ar gael.
Mae Tux Paint ar gael am ddim, ac mae'r côd tarddiad, y
gelfyddyd a'r ddogfennaeth i gyd ar gael yn rhydd dan drwydded
Côd Agored.
Cefnogi Tux Paint
Cefnogir Tux Paint drwy gyfraniadau gwirfoddol o amser ac adnoddau
gan unigolion ledled y byd. I ddarganfod sut y gallwch chi neu eich mudiad
ymuno â ni a helpu cefnogi Tux Paint, ewch i'r dudalen we
Helpu Tux Paint.
Hysbysiadau Nodau Masnach: Nod masnach cofrestredig
Linus Torvalds yw Linux. Nodau masnach Apple Computer, Inc
yw Apple a Mac OS X. Nodau masnach Microsoft Corp
yw Microsoft a Windows.
Datganiad i'r Wasg gan: William Kendrick
Cyfieithwyd gan: Kevin Donnelly
Cysylltiadau Gwasg
Asia
Muguntharaj
Malaysia
Email: mugunth@thamizha.com
|
North America
William Kendrick
2210 Rock St. #33
Mountain View, CA 94043
USA
Phone: (650) 691-0498
Email: bill@newbreedsoftware.com
|
South America
Gabriel Gazzán
Tacuarembó 1442 Of. 1116
Montevideo
Uruguay
Phone: (598-2) 309-1158
|
|