Cyhoeddi Tux Paint 0.9.14

New Breed Software yn Rhyddhau Fersiwn Gorau Byth o'r Meddalwedd Celf Côd Agored ar gyfer Plant

[ Cymraeg | English | Español | Français | Indonesia | Italiano | Japanese | Norsk nynorsk | Chinese ]

12 Hydref 2004 (Y Rhyngrwyd) - Mae New Breed Software yn falch o gyhoeddi Tux Paint 0.9.14. Dyma'r rhyddhad mawr cyntaf eleni o'r meddalwedd celf gwych yma ar gyfer plant. Dros y naw mis diwethaf, gwnaed llawer o waith i wella Tux Paint ac ychwanegu'r nodweddion a ofynnwyd amdanynt gan athrawon a rhieni.

Mae Tux Paint 0.9.14 yn cyflwyno nodweddion newydd fel offer ffurfweddu haws eu defnyddio i rieni ac athrawon, a modd llyfr lliwio aml-haen. Mae'r ffaith bod Tux Paint ar gael ar hyn o bryd mewn 45 iaith gwahanol yn adlewyrchu ei ganolbwynt rhyngwladol, efo criw o gyfrannwyr o wledydd gwahanol.

Crynodeb o'r Uchafbwyntiau

Nodweddion Newydd

Gwelliannau

Cefnogaeth Aml-ieithyddol Gwell

'Stampiau' Newydd

Namau a Drwsiwyd

Gweler Cofnod newidiadau Tux Paint and Cofnod newidiadau Stampiau Tux Paint am restr gyfan o newidiadau.

Cael Tux Paint 0.9.14

Gellir lawrlwytho Tux Paint 0.9.14 dros y Rhyngrwyd gan fynd i http://www.newbreedsoftware.com/tuxpaint/download/. Mae côd tarddiad a phecynnau deuaidd ar gyfer nifer o ddosbarthiadau Linux ac Microsoft Windows ar gael.

Mae Tux Paint ar gael am ddim, ac mae'r côd tarddiad, y gelfyddyd a'r ddogfennaeth i gyd ar gael yn rhydd dan drwydded Côd Agored.

Cefnogi Tux Paint

Cefnogir Tux Paint drwy gyfraniadau gwirfoddol o amser ac adnoddau gan unigolion ledled y byd. I ddarganfod sut y gallwch chi neu eich mudiad ymuno â ni a helpu cefnogi Tux Paint, ewch i'r dudalen we Helpu Tux Paint.


Hysbysiadau Nodau Masnach: Nod masnach cofrestredig Linus Torvalds yw Linux. Nodau masnach Apple Computer, Inc yw Apple a Mac OS X. Nodau masnach Microsoft Corp yw Microsoft a Windows.

Datganiad i'r Wasg gan: William Kendrick
Cyfieithwyd gan: Kevin Donnelly


Cysylltiadau Gwasg

Asia
Muguntharaj
Malaysia
Email: mugunth@thamizha.com

North America
William Kendrick
2210 Rock St. #33
Mountain View, CA 94043
USA
Phone: (650) 691-0498
Email: bill@newbreedsoftware.com

South America
Gabriel Gazzán
Tacuarembó 1442 Of. 1116
Montevideo
Uruguay
Phone: (598-2) 309-1158